GWOBRAU

Mae Siwgr a Sbeis yn hynod o falch o’r ffaith eu bod yn dîm sydd wedi ennill gwobrau. Maent wedi sicrhau dyfarniadau lu am wahanol agweddau o’u busnes a’u harbenigedd.

Roedd hi’n destun balchder mawr gan Siwgr a Sbeis ennill gwobr Busnes y Flwyddyn - Gwobrau Busnes Conwy 2014! Pa ffordd well o ddathlu 25 mlynedd o bobi?

Dyma rai o’n gwobrau:

Gwobr Aur 2 Seren Great Taste - Brulee Riwbob

Gwobr Aur 2 Seren Great Taste – Tarten Bakewell Nadolig

Gwobr Aur Great Taste – Quiche Perl Las a Brocoli

Gwobr Aur Great Taste — Pwdin Dolig Moethus

Gwobr Aur Great Taste — Bara Brith

Gwobr Aur Great Taste — Mins Pei Crymbl Cnau Ffrengig

Gwobr Aur Great Taste — Cymysgedd Cwcis Llugaeron a Bricyll

Gwobr Arian Gwir Flas — Bara Brith

Gwobr Arian Gwir Flas — Cacen Goffi a Chnau Ffrengig

Gwobrau Aur Great Taste — Quiche Perl Las a Brocoli

Dyma ddywedodd Gwobrau Aur Great Taste: “Sesnin da, ansawdd ysgafn. Blas dymunol.”

Gwobrau Aur Great Taste — Pwdin Dolig

Dyma ddywedodd Gwobrau Aur Great Taste: “Sawr dymunol, cynnes a chartrefol. Ansawdd hyfryd o laith, ffrwythau meddal braf a dyfnder da o flas sy’n awgrymu aeddfedu hir. Yn creu ysfa ryfeddol i fwyta rhagor. Dywedodd un beirniad ei fod ‘bron cystal â phwdin fy ngwraig, a hwnnw yw’r gorau yn y byd.’ Gallai’n hawdd fod yn gynnyrch cartref a grewyd gyda chariad.”

Gwobrau Aur Great Taste — Cacen Ffrwythau Gyfoethog gydag Alcohol

Dyma ddywedodd Gwobrau Aur Great Taste: “The Guild of Fine Food yw cymdeithas fasnach y Deyrnas Unedig i unrhyw un sy’n creu neu’n gwerthu bwydydd a diodydd lleol, rhanbarthol ac arbenigol o’r safon uchaf. Mae ennill Seren Aur yn y gystadleuaeth hon yn gyflawniad hynod o uchel.

Gwobrau Aur Great Taste — Cacennau Fflorens

Dyma ddywedodd Gwobrau Aur Great Taste: “The Guild of Fine Food yw cymdeithas fasnach y Deyrnas Unedig i unrhyw un sy’n creu neu’n gwerthu bwydydd a diodydd lleol, rhanbarthol ac arbenigol o’r safon uchaf. Mae ennill Seren Aur yn y gystadleuaeth hon yn gyflawniad hynod o uchel."

Gwobrau Aur Great Taste — Fflapjac Cyrens Duon

Dyma ddywedodd Gwobrau Aur Great Taste: “Dim ond 220 o gystadleuwyr allan o 4800 o ymgeiswyr sy’n ennill 2 Seren Aur yn y gwobrau hyn. Maen nhw’n hynod o gystadleuol. Mae ennill 2 Seren Aur yn un o’r canmoliaethau uchaf y gellir eu cael ac mae’n sicr bod y fflapjac cyrens duon gan Siwgr a Sbeis yn haeddu hyn.”

Gwobrau Menter 2007

Cynllun dyfarniadau gan Menter a Busnes i wobrwyo siaradwyr Cymraeg sy’n rhedeg eu busnesau eu hunain a chwmnïau llwyddiannus sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg. Cafodd Siwgr a Sbeis eu cynnwys ar y rhestr fer am ddefnyddio a hybu’r Gymraeg gan hefyd wneud cyfraniad pwysig i ffyniant yr economi lleol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.menterabusnes.com

Gwobrau Dylunio Dwyieithog 2007 Bwrdd yr Iaith Gymraeg am Ddeunydd Pecynnu Bwyd a Diod — Canmoliaeth Arbennig

Dyma ddywedodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg: “Y deunydd pecynnu dwyieithog lliw sepia, sy’n dangos bachgen ifanc yn gwisgo het cogydd yn eistedd wrth fwrdd cegin yn defnyddio offer pobi ei fam, yw’r cynllun pecynnu perffaith i gyfleu’r dulliau traddodiadol a ddefnyddiant wrth bobi, wedi’u cyfuno â dull ffres, modern a meddwl arloesol.”

Gwobr Cynnydd Sylweddol Live Wire

Dyma ddywedodd Live Wire: “Wedi iddynt dderbyn Gwobr Live Wire am fod yn ‘Un o Fentrau Mwyaf Addawol y DU’ yn 1989 gan Richard Branson, mae’n bleser mawr yn awr gan Live Wire ddyfarnu’r wobr Cynnydd Sylweddol ers Cychwyn iddynt.”

Gwobr Live Wire — Un o Fentrau Mwyaf Addawol y DU, 1989