EIN STORI NI

Lansiwyd Siwgr a Sbeis gan y cyfeillion ysgol Rhian Owen a Rhian Williams ym mis Chwefror 1989, yr un flwyddyn ag y daethent yn bencampwyr Cymru Livewire a derbyn eu gwobr gan Syr Richard Branson.

Dechreuodd y busnes bobi a gwerthu amrywiaeth o gacennau blasus o siop yn Llanrwst gyda gweithlu o ddim ond tri.

Heddiw, mae’r busnes mewn becws modern 5,000 troedfedd sgwâr yn Llanrwst, ac mae’n cynhyrchu amrywiaeth eang o gacennau, pwdinau a quiches sawrus sydd wedi ennill gwobrau, i gwsmeriaid ledled Cymru a’r Gororau.

Mae’r ddwy Rhian yn bodio drwy eu hen lyfrau ryseitiau’n gyson ac yn ychwanegu elfen fodern i greu cynhyrchion arloesol sy’n tynnu dŵr i’r dannedd, ac mae llawer ohonynt wedi ennill gwobrau aur Great Taste – sef Oscars y byd bwyd.

“Ein hangerdd mewn bywyd yw pobi ac rydym yn pobi yn y dulliau traddodiadol. Dyna gyfrinach ein llwyddiant.”

Mae cynhyrchion Siwgr a Sbeis, sy’n hawdd eu hadnabod yn eu deunydd pecynnu sepia amlwg, i’w cael mewn siopau, gwestai, bwytai, caffis a chanolfannau garddio.