YN Y BECWS
Fe ddechreuon ni mewn siop fechan yng nghanol tref Llanrwst, ond daeth newid byd wrth i ni symud i'n becws pwrpasol 5,000 troedfedd sgwâr ar gyrion y dref. Rydym ni'n dal i ddefnyddio dulliau traddodiadol, ond ar raddfa ehangach, fel bod mwy o bobl yn gallu mwynhau'r hyn yr ydym ni'n ei bobi.